|
Dyma wahoddiad i ddigwyddiad atal trosedd wedi'i ariannu'n llawn sy'n canolbwyntio ar fusnesau yng Ngogledd Cymru ac yn cael ei gynnal yn Wrecsam ar 5 Chwefror 2026. Wedi'i drefnu mewn partneriaeth gan Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Canolfan Gwydnwch Seiber Cymru, a Llywodraeth Cymru, mae'r Digwyddiad Atal Trosedd Busnes Gogledd Cymru yn siŵr o fod yn ddigwyddiad hynod addysgiadol sy'n edrych ar sut i gadw busnesau'n saff rhag trosedd.
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys bygythiadau'r gadwyn gyflenwi; bygythiadau DA sy'n dod i'r amlwg; seiber hanfodol i fusnesau; diogelwch corfforol i fusnesau; a sut y bydd diogelu eich busnesau yn tawelu eich meddwl chi ar gyfer y dyfodol.
Bydd y digwyddiad hanner diwrnod rhad ac am ddim hwn yn cael ei gynnal yn Nhŵr Redwither ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, a bydd yn cynnwys cyfraniadau gan siaradwyr a sefydliadau o'r radd flaenaf gan gynnwys:
• Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
• Uned Troseddau Trefnedig Gogledd Orllewin Lloegr
• Canolfan Seibergadernid yng Nghymru
• D G Security Consultancy
• Global Security Management – DTCC
• Tîm Troseddau Seiber, Heddlu Gogledd Cymru
• Dr Huw Vaughan Jones, Jovasi Technology
Pryd: 5 Chwefror 2026, cyrraedd 8:30 dechrau 9.00-13.00
Lleoliad: Tŵr Redwither, Wrecsam, LL13 9XT
Cost: Yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa: Perchnogion a gweithredwyr busnesau bach a chanolig ledled Gogledd Cymru
Tocynnau: Archebwch docynnau yma rŵan: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=drGGTg6hvUONJ5J_RNDmZWouNiap4tlDuH5Yk2xwa0lUMVFaMUlZVlZJTFgySlhWNEVFNFQ0MjZZUS4u
|