|
||
|
|
||
|
||
|
*CADWCH Y DYDDIAD – DIGWYDDIAD ATAL TROSEDDAU BUSNES GOGLEDD CYMRU – 05/02/26 – WRECSAM – 09.00 – 13.00** |
||
|
Ymunwch â ni ar y 5ed o Chwefror 2026 ar gyfer Digwyddiad Atal Troseddau Busnes wedi'i ariannu'n llawn ac felly’n rhad ac am ddim a gyflwynir mewn partneriaeth gan Heddlu Gogledd Cymru, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Canolfan Seibergadernid Cymru, a Llywodraeth Cymru.
Mae'r digwyddiad yma wedi'i gynllunio i helpu busnesau a sefydliadau i gryfhau eu diogelwch, gyda ffocws penodol ar seiberddiogelwch yn ogystal â mesurau diogelwch corfforol a strategaethau atal troseddau ehangach. Bydd y rhai sy'n mynychu yn clywed gan siaradwyr arbenigol yn rhannu canllawiau ymarferol ar ddiogelu safleoedd, staff, asedau a gweithrediadau busnes, ochr yn ochr â gwybodaeth am fygythiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg sy'n effeithio ar sefydliadau o bob maint gan gynnwys bygythiadau cadwyn gyflenwi.
Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle gwerthfawr i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol blaenllaw, gofyn cwestiynau, a rhoi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar eich sefydliad i wella ei seiberddiogelwch a'i ddiogelwch corfforol ac atal troseddau mewn amgylchedd sy'n newid yn barhaus.
Bydd dolen gofrestru yn cael ei rhannu cyn bo hir i gadw lle yn y digwyddiad, ond yn y cyfamser cofiwch gadw'r dyddiad. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni'n uniongyrchol.
#SeiberDdiogelHGC
| ||
Reply to this message | ||
|
|





