Mae amnest cyllyll yn cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru yr wythnos hon fel rhan o ymgyrch genedlaethol ehangach. Nod Ymgyrch Sceptre yw cael gwared ar arfau llafnog oddi ar y strydoedd, ac mae'n rhedeg rhwng 17 - 23 Tachwedd 2025. Mae HGC wedi gosod Biniau Amnest yn y Canolfannau Ailgylchu canlynol yng Ngwynedd: Canolfan Ailgylchu Dolgellau, Ffordd y Bala, Dolgellau, LL402YF Canolfan Ailgylchu Harlech, Ffridd Rasus, Harlech, LL462UW Canolfan Ailgylchu Caernarfon, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, LL552BD Os oes gennych gyllell yn eich meddiant neu os ydych chi'n ymwybodol o aelod o'ch teulu neu ffrind sydd ag un yn ei feddiant, gellir cael gwared ar gyllell/cyllyll yn y biniau amnest hyn heb ofyn cwestiynau i'r Heddlu. Mae'r ymgyrch hon yn rhan o ddarn ehangach o waith i wneud Gogledd Cymru y lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef yn y DU. |