|
CCyn gosod y swm mae pobl yng Ngogledd Cymru yn ei dalu am blismona drwy’r praesept, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, eisiau clywed yr hyn rydych yn ei feddwl am y cynlluniau fel rhan o ymgynghoriad ac arolwg cyhoeddus.
Ynghyd â chael eich barn ar newidiadau i’r swm a delir tuag at blismona, byddwch hefyd yn gallu dweud pa flaenoriaethau rydych eisiau gweld Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu arnynt. Bydd yr arolwg hefyd yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau ar sut ydych yn gweld plismona yn eich cymuned eich hun yn fwy cyffredinol.
Cwblhewch yr arolwg rwan: www.surveymonkey.com/r/83PLMMM |