|
||
|
|
||
|
||
|
Beware of unexpected door-to-door sellers / Byddwch yn ofalus o werthwyr annisgwyl yn mynd o ddrws i ddrws. |
||
|
Mae adroddiadau wedi bod yn ddiweddar ledled Gogledd Cymru am ddynion ifanc yn mynd o ddrws i ddrws yn ceisio gwerthu nwyddau. Yn aml maen’t yn ceisio gwerthu eitemau gwerth isel am brisiau chwyddedig. Gelwir hyn yn aml yn sgam y 'Nottingham Knockers'.
Mae sgam y 'Nottingham Knockers' yn ymwneud a gwerthwyr yn mynd o ddrws i ddrws gan weithiau esgus bod yn gyn droseddwyr sy'n ceisio newid eu bywydau mewn ymgais i ennill rhywfaint o gydymdeimlad. Maen’t weithiau’n defnyddio tactegau gwerthu ymosodol i werthu nwyddau o ansawdd isel. Tra’n gwneud hyn fe fyddent weithiau hefyd yn casglu gwybodaeth er mwyn targedu’r tŷ a thorri mewn iddo’n ddiweddarach.
-Sut mae'r Sgam yn Gweithio- -Gwerthu o ddrws i ddrws: Mae’r 'Nottingham Knockers' fel arfer yn ddynion ifanc sy'n mynd o ddrws i ddrws yn gwerthu cynhyrchion cartref, gan honni'n aml eu bod ar raglen adsefydlu. Gallant ddangos cerdyn adnabod ffug er mwyn ymddangos yn ddilys. -Casglu Gwybodaeth: Wrth werthu, maent weithiau’n asesu'r aelwyd er mwyn torri mewn iddo’n ddiweddarach. Maent yn chwilio am arwyddion o gyfoeth, presenoldeb pethau gwerthfawr, arian parod sydd ar gael yn rhwydd, diogelwch gwael, trigolion bregys a.y.y.b. -Tactegau Ymosodol: Os yw preswylwyr yn gwrthod prynu, gall y gwerthwyr droi’n wrthdrawiadol a bygythiol i ddychryn unigolion i brynu.
-Risgiau Sy'n Gysylltiedig- -Targedu Unigolion sy’n Agored i Niwed: Mae'r sgam yn aml yn targedu trigolion oedrannus neu sy’n fwy agored i niwed. -Bwrgleriaeth Posibl: Ar ôl casglu gwybodaeth, gall y gwerthwyr ddychwelyd yn ddiweddarach i dorri i mewn i'r cartref, gan ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd ganddynt yn ystod eu hymweliad cychwynnol.
-Awgrymiadau Diogelwch- -Peidiwch ag Agor y Drws: Os byddwch chi'n dod ar draws 'Nottingham Knocker', peidiwch ag agor y drws. Mae'n well peidio ag ymgysylltu â nhw o gwbl, ond os oes rhaid i chi yna siaradwch â nhw trwy ddrws neu ffenestr caeëdig. Peidiwch byth â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol nag ariannol hefo nhw. -Riportiwch Ymddygiad Amheus: Os ydych chi'n teimlo dan fygythiad neu'n sylwi ar ymddygiad amheus, cysylltwch â'r heddlu lleol ar unwaith. Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau drwy'r rhif di-frys 101 neu drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru. Os yw'n ddiogel gwneud hynny, nodwch ddillad adnabyddadwy neu rifau ceir y gallent fod yn eu defnyddio. -Addysgu Cymdogion ac aelodau’r teulu: Rhowch wybod i’ch cymdogion ac aelodau’r teulu, yn enwedig yr henoed, am y sgam yma i helpu i’w hamddiffyn rhag cam fanteisio posibl.
Mewn ardaloedd eraill yn y DU mae nhw wedi troi’n dreisgar ac wedi gorfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl i gael rhagor o arian parod. Nid yw hyn wedi digwydd yn ardal Gogledd Cymru eto, ond mae'r dynion wedi bod yn ymosodol a bygythiol ar lafar ar adegau. Cofiwch fod y gwerthwyr yma’n droseddwyr proffesiynol a'r ffordd orau i aros yn ddiogel yw peidio ag ymgysylltu â nhw o gwbwl.
Os bydd ‘Nottingham Knockers’ yn ymweld â chi, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'r Heddlu fedru mynychu eich ardal a dal yr unigolion. Fodd bynnag, os cewch eich bygwth neu eich trin yn ymosodol ar garreg y drws, ffoniwch 999 am ymateb brys.
| ||
Reply to this message | ||
|
|





