Mae nifer gynyddol o adroddiadau wedi eu derbyn yn yr ardal yn ymwneud â chwmni o'r enw TERMINATION EXPERTS. Mae'r cwmni'n honni ei bod yn cynorthwyo aelodau'r cyhoedd i ganslo tanysgrifiadau trwy anfon llythyr canslo 'cyfreithiol aerglos' at unrhyw ddarparwr gwasanaeth am ffi.
Mae dioddefwyr wedi nodi eu bod wedi derbyn llythyrau, e-byst a negeseuon gan TERMINATION EXPERTS yn mynnu taliad, pan nad ydynt erioed wedi defnyddio'r cwmni nac wedi cyrchu eu gwefan yn fwriadol. Daw'r llythyrau gyda'r bygythiad o ychwanegu taliadau ychwanegol os na thelir yr anfoneb o fewn pythefnos ac y bydd yr achos hefyd yn cael ei drosglwyddo i asiantaeth gasglu dyledion. Adroddodd y rhan fwyaf o ddioddefwyr eu bod wedi canslo tanysgrifiad yn ddiweddar, sy'n gwneud i'r cais am daliad ymddangos yn fwy credadwy.
Cynghorir unrhyw un sy'n derbyn cais am daliad mewn amgylchiadau tebyg i beidio â thalu, ac i roi gwybod i Action Fraud drwy eu gwefan www.actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Rhannwch y wybodaeth a gwnewch yn siŵr bod teulu a ffrindiau'n ymwybodol o'r sgam yma fel nad ydynt yn cael eu dal allan.
#SeiberDdiogelHGC 
|