Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl i gwch pwmpiadwy coch mawr gael ei gymryd o'i angorfeydd ar y tywod ym Mae Borth-Y-Gest a'i adael mewn cilfach rhwng y twr a chraig Danger. Mae'r troseddwr(wyr) wedi dwyn injan yr allfwrdd a adawodd y cwch yn y cilfach. Os gwelodd unrhyw un unrhyw beth amheus rhwng cyfnos nos Fercher 3ydd Medi a gwawr nos Iau 4ydd Medi yn ac o gwmpas yr Harbwr ym Mhorth-Y-Gest, cysylltwch â HGC dros y ffôn gan ddefnyddio ein llinell difrys - 101 neu drwy ein gwefan gan ddefnyddio'r cyfleuster sgwrsio gwe a dyfynnwch y cyfeirnod (C0138362). |