CYLLID O £500 AR GAEL AR GYFER PROSIECTAU IEUENCTID
TRECU TROSEDD - GOGLEDD CYMRU
TRECHU TROSEDD ydy cronfa ieuenctid Uchel Siryfion Cymru a Lloegr. Yng Ngogledd Cymru mae gennym ddau Uchel Siryf:
•Uchel Siryf Clwyd – sy’n gwasanaethu siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam.
•Uchel Siryf Gwynedd – sy’n gwasanaethu siroedd Gwynedd ac Ynys Môn
Mae’r Uchel Siryf yn annog grwpiau o bobl ifanc rhwng pump a phump ar hugain oed sefydlu prosiect yn eu cymuned fydd yn helpu atal trosedd, lleihau trosedd neu wella diogelwch yn y gymuned.
Dylai’r grŵp:
•Nodi unrhyw broblemau yn eu cymuned sy’n ymwneud â throsedd neuddiogelwch cymunedol.
•Dewis un o’r problemau a adnabuwyd.
•Canfod ateb ymarferol a chyraeddadwy i’r broblem honno.
•Os oes cost yn gysylltiedig â chynnal y prosiect yna dylech lenwi ffurflen gais er mwyn caelnawdd gan Trechu Trosedd.
Er mwyn bod yn gymwys i gael nawdd o hyd at £500 ar gyfer pob prosiect, rhaid bodloni’r meini prawf canlynol:
•Os ydy aelodau’r grŵp o dan ddeunaw oed, yna mae’n rhaid i’r grŵp gael cefnogaethoedolyn, er enghraifft, gweithiwr ieuenctid, athro/athrawes neu arweinydd grŵp cymunedol.
•Mae’r rhaid i’r prosiect gynnwys elfen sylweddol o atal trosedd, lleihau trosedd neuddiogelwch cymunedol.
•Mae’n rhaid i aelodau’r grŵp gymryd rhan weithredol yn y prosiect.
•Dylai’r prosiect Cynorthwyo cymunedau pobl ifanc fel aelodau gwerthfawr o’r gymuned acheisio cynnwys cymaint o wahanol bobl o’r gymuned ag sy’n bosib.
Bydd panel dethol yn ystyried y cais, ac os ydy’r meini prawf wedi’u bodloni, bydd Trechu Trosedd yn rhoi’r arian i’r grŵp er mwyn iddynt allu rhoi eu syniadau ar waith. Os bydd eich cais yn llwyddiannus yna fe ofynnir i chi arwyddo ein Telerau ac Amodau safonol – mae’r manylion yn y pecyn hwn.
Bob blwyddyn bydd yr Uchel Siryf yn dewis y prosiectau mwyaf llwyddiannus a bydd y prosiectau hynny yn cael eu gwahodd i fynychu Gwobrau Blynyddol Trechu Trosedd lle bydd yr Uchel Siryf yn dewis un enillydd o’u plith.
Mae’n rhaid i’ch cais fynd i’r afael ag un neu fwy o amcanion Trechu Trosedd:
•Lleihau troseddau lleol a chadw pobl ifanc allan o drwbwl
•Cynorthwyo dioddefwyr trosedd
•Sbarduno diddordeb mewn gwaith gwirfoddol
•Cynorthwyo cymunedau lleol
•Gwella presenoldeb ac ymddygiad yn yr ysgolion
•Gwella ansawdd bywyd
Er mwyn gwneud cais am nawdd ar gyfer eich prosiect, dylech lenwi’r ffurflen gais a’i hanfon ar ffurf e-bost at: info@crimebeatnorthwales.co.uk
|