![]() |
||
|
||
|
||
Sgam ffi parcio sydd heb gael ei dalu. |
||
Mae ein tîm wedi cael gwybod dros y dyddiau diwethaf am fwy o negeseuon testun sgam sy’n hysbysu'r derbynnydd fod angen iddynt dalu ffi parcio sydd heb gael ei dalu. Mae'r dyddiad cau sy’n cael ei nodi ar gyfer talu yn ychwanegu elfen o frys ac mae’r awgrym y gallai peidio â thalu’n amserol effeithio ar sgôr credyd y derbynnydd neu arwain at ddirymu eu trwydded yn debygol o wneud i rai derbynwyr boeni neu fynd i banig gan wneud iddynt glicio ar y ddolen mewn ymgais i geisio datrys y sefyllfa. Bydd unrhyw un sy'n clicio ar y ddolen yn cael ei gyrru i wefan dwyllodrus a allai geisio gosod meddalwedd maleisus ar eich dyfais a chipio manylion eich cerdyn banc. Byddwch yn ofalus ynghylch clicio ar ddolenni mewn negeseuon testun neu e-byst oni bai eich bod yn gallu gwirio eu dilysrwydd. Ychwanegwyd cydweithiwr a dderbyniodd un o'r negeseuon yma at grŵp a oedd yn cynnwys sawl derbynnydd arall o’r neges, ac roedd rhai pobl yn y grŵp yn ateb i ddweud y byddent yn gwneud y taliad. Gallai’r negeseuon yma hyd yn oed fod yn rhan o'r sgam ac yn dric teilwra cymdeithasol arall i annog dioddefwyr i dalu hefyd. Treuliwch ychydig o funudau os yn bosib i siarad â theulu a ffrindiau yr ydych chi'n credu a allai fynd i banic neu'n boeni os y byddent yn derbyn neges fel hyn a rhybuddiwch fod unrhyw neges o’r fath yn debygol o fod yn sgam. Os cewch negeseuon fel hyn, rhowch wybod amdanynt i'ch darparwr drwy eu hanfon ymlaen i '7726'. #SeiberDdiogelHGC | ||
Reply to this message | ||
|
|