Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i golled Bitcoin syfrdanol o £2.1 miliwn, achos sy'n tynnu sylw at duedd newydd sy'n targedu deiliaid hirdymor crypto arian sy'n defnyddio dyfeisiau storio oer. Credwn y gallai'r unigolion yma fod wedi'u hadnabod au targedu oherwydd tor-data, gan wneud hon yn sgam sydd wedi'i thargedu'n ofalus iawn.
Mae'r achos yn ymwneud â dioddefwr y chysylltwyd a nhw gan sgamiwr o oedd yn esgus bod yn uwch swyddog Heddlu yn y DU.
Stori ffug oedd y bachyn: roeddent yn honni eu bod wedi arestio unigolyn a bod ei ffôn yn cynnwys dogfennau adnabod personol y dioddefwr, gan bwysleisio toriad diogelwch posibl. Manteisiodd y sgamwr ar yr ymdeimlad o ofn a brys, gan ddweud wrth y dioddefwr i "ddiogelu ei hasedau" drwy fewngofnodi i'w dyfais storio oer drwy ddolen a yrrwyd iddynt gan yr uwch swyddog Heddlu honedig. Gan gredu eu bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r Heddlu ag yn poeni am ddiogelwch eu asedau, rhoddodd y dioddefwr eu cyfrinair crypto i mewn i wefan soffistigedig ffug. Caniataodd hyn i'r sgamwyr ail-adeiladu waled crypto y dioddefwr ac, mewn ychydig eiliadau, tynnu'r holl asedau allan.
Rydym rŵan yn cynnal ymchwiliad llawn, ond mae neges bwysig yma i unrhyw un sy'n berchen ar unrhyw arian cyfred digidol:
- Ni fydd yr heddlu BYTH yn eich ffonio’n annisgwyl i drafod eich asedau crypto nag yn gofyn i chi gymryd camau i symud eich asedau.
- Mae’n iawn rhoi'r ffôn i lawr a gwirio. Os byddwch yn derbyn galwad annisgwyl gan rywun sy'n honni ei fod o'r Heddlu, rhowch y ffon i lawr a chysylltwch â'r Heddlu'n uniongyrchol drwy ffonio 101 i wirio bod y cyswllt yn ddilys.
- Eich cyfrinair crypto yw eich allwedd chi. Peidiwch byth â'i nodi yn unman ac eithrio ar eich dyfais storio oer ei hun yn ystod y broses sefydlu neu adfer eich waled asedau. Ni fydd cwmni dilys na'r Heddlu byth yn gofyn amdano.
Mae'r achos yma’n ein atgoffa fod sgamwyr yn esblygu eu tactegau'n gyson. Nid buddsoddwyr newydd yn unig maent yn eu targedu; maent yn crefftio negeseuon soffistigedig sy’n defnyddio teilwra cymdeithasol i dwyllo hyd yn oed y deiliaid crypto arian mwyaf profiadol. Byddwch yn wyliadwrus, amddiffynnwch eich asedau a'ch cyfrineiriau crypto.
#SeiberDdiogelHGC #Cryptoarian #Twyll #Seiberddiogelwch #Gwerwydo #Teilwracymdeithasol |