|
||||
|
||||
|
||||
Rydym yn parhau i dderbyn adroddiadau am unigolion ledled Gogledd Cymru yn derbyn negeseuon testun ac e-byst sy'n cynnwys dolenni amheus sy'n honni eu bod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Dyma rai o'r adroddiadau:- ⚠️ Neges destun yn honni ei fod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Roedd y neges yn amlinellu'r gefnogaeth sydd ar gael gyda grantiau gwresogi ac yn annog y derbynnydd i weithredu'n gyflym gan y byddai'r ffenestr ymgeisio yn cau'n fuan. Arweiniodd dolen yn y neges at dudalen we yn gofyn am fanylion banc ar gyfer taliad o £1 i'w gymryd i wirio'r cyfrif banc er mwyn i’r grant gael ei dalu i’r cyfrif. ⚠️ Neges destun yn honni ei bod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi y gallai'r derbynnydd hawlio'r lwfans tanwydd gaeaf ond bod yn rhaid iddo wneud hynny o fewn 24 awr. Arweiniodd y ddolen yn y neges at dudalen a oedd yn gofyn am fanylion banc. ⚠️ Neges destun yn honni ei bod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud fod gan y derbynnydd hawl i hawlio £200-£300. Arweiniodd y ddolen yn y neges at dudalen we a ofynnodd am fanylion personol ac yna manylion cerdyn (am dâl prawf o £0.01 yn ôl yr honiad). Cysylltodd y derbynnydd â'r Adran Gwaith a Phensiynau a gadarnhaodd fod y neges yn sgam. ⚠️ E-bost yn honni i fod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch taliadau tanwydd gaeaf. Roedd y ddolen yn yr e-bost yn arwain at dudalen we a oedd yn ymddangos fel tudalen y llywodraeth ac yn gofyn am fanylion cerdyn banc. Cysylltodd y derbynnydd â'r Adran Gwaith a Phensiynau a gadarnhaodd mai sgam oedd y neges. Byddwch yn ofalus gyda dolenni heb eu gwirio mewn negeseuon annisgwyl. Peidiwch byth â rhannu manylion personol nag ariannol oni bai eich bod yn siŵr eich bod yn ymgysylltu â ffynonellau swyddogol a dibynadwy. Cymerwch ychydig funudau i wneud yn siŵr bod eich teulu, ffrindiau a chymdogion yn ymwybodol fod hyn yn sgam gyffredin fel nad ydyn nhw'n cael eu dal allan. #SeiberDdiogelHGC | ||||
Reply to this message | ||||
|
||||
|