{SITE-NAME} Logo
Heddlu Gogledd Cymru
Message Type Icon

Twyll Tocynnau.


🚨 Gwyliwch allan am dwyll tocynnau cyn prif ddigwyddiadau a chyngherddau’r haf 🚨 Cynyddodd cyfanswm y colledion cyfunol i’r math yma o dwyll bron 50% y llynedd i £9.7 miliwn, gyda 9,826 o adroddiadau o dwyll tocynnau wedi’u gwneud i Action Fraud. Roedd adroddiadau yn 2024 ar eu huchaf yn ystod Mehefin a Gorffennaf gyda 1,067 o adroddiadau wedi’u gwneud ym mis Mehefin ac 887 ym mis Gorffennaf. Dyma gyngor am sut i amddiffyn eich hun rhag twyll tocynnau: ✅ Byddwch yn wyliadwrus o e-byst, negeseuon testun neu hysbysebion digymell sy'n cynnig bargeinion anhygoel o dda ar docynnau. ✅ Osgowch dalu am docynnau drwy drosglwyddiad banc, yn enwedig os yn prynu gan rywun anhysbys. Mae defnyddio cerdyn credyd yn rhoi gwell cyfle i chi adennill yr arian os byddwch yn dioddef twyll. ✅ Prynwch docynnau o swyddfa docynnau'r lleoliad, hyrwyddwr swyddogol neu o wefan docynnau adnabyddus. ✅ A yw'r gwerthwr yn aelod o STAR? Os ydynt, mae'r cwmni wedi ymrwymo i'w safonau llywodraethu llym. Mae STAR hefyd yn cynnig gwasanaeth i gefnogi cwsmeriaid sydd â chwynion heb eu datrys. I gael rhagor o wybodaeth ewch i star.org.uk/buy_safe ✅ Dylai'r cyfrinair a ddefnyddiwch ar gyfer eich cyfrif e-bost, yn ogystal ag unrhyw gyfrifon eraill a ddefnyddiwch i brynu tocynnau, fod yn wahanol i'ch holl gyfrineiriau eraill. Defnyddiwch dri gair ar hap i greu cyfrinair cryf a chofiadwy a galluogwch ddilysu 2 gam ar eich cyfrifon (2SV). ℹ️ Dysgwch fwy am sut i amddiffyn eich hun rhag twyll yma 👉 https://stopthinkfraud.campaign.gov.uk #SeiberDdiogelHGC #TwyllTocynnau


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Dewi Owen
(North Wales Police, Cyber Crime Officer, North Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials